Gyda'n Gilydd ar gyfer Ein Planed

Greener Kirkcaldy

Mae'r rhaglen hon ar gau i geisiadau.

Rydym yn cynnig £1,000 hyd at £10,000 o arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid yn yr hinsawdd.

Dylai prosiectau adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i'ch cymuned a gall fod yn fach o ran maint. Gallent gynnwys themâu fel:

  • bwyd
  • trafnidiaeth
  • ynni
  • gwastraff a defnydd
  • yr amgylchedd naturiol.

Ni fydd angen i chi fod yn arbenigwr yn unrhyw un o'r meysydd hyn i wneud cais. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl sy'n dechrau meddwl am weithredu ar newid yn yr hinsawdd yn eu cymunedau.

Ym mis Tachwedd 2021, bydd y DU yn cynnal y 26ain Cynhadledd Pleidiau’r Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (COP26) yn Glasgow. Mae Llywodraeth y DU yn defnyddio Uno dros Ein Planed i ymgysylltu â phobl gyda COP26 ac ysbrydoli gweithredu cadarnhaol o ran yr hinsawdd. Bydd yr arian hwn yn cefnogi Uno dros Ein Planed ac yn helpu cymunedau i weithredu ar newid yn yr hinsawdd.

Gan adeiladu ar ddiddordeb a chyffro ar gyfer y gynhadledd ryngwladol hon, gobeithiwn feithrin a datblygu syniadau lleol drwy'r rhaglen hon, gan gefnogi gwaddol o brosiectau gweithredu ar yr hinsawdd parhaus mewn cannoedd o gymunedau ledled y DU.

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Mudiadau gwirfoddol neu gymunedol
Maint yr ariannu
£1,000 i £10,000
Cyfanswm ar gael
£3.5 miliwn - Rydym wedi cael llawer o ddiddordeb yn ein rhaglen Gyda’n Gilydd Ar Gyfer Ein Planed - sy'n dangos pwysigrwydd gweithredu yn yr hinsawdd i bobl - ac rydym wrth ein bodd y gallwn bellach ddarparu £1 miliwn arall yn ystod COP26 i gefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd.
Terfyn amser ymgeisio

Terfyn amser ymgeisio: Mae’r rhaglen hwn bellach ar gau ar gyfer ceisiadau. Ni fydd unrhyw geisiadau sydd dal yn cael eu cwblhau yn gallu cael eu cyflwyno mwyach.

Sut i ymgeisio

Mae'r rhaglen hon ar gau. Ni fydd unrhyw geisiadau sydd dal yn cael eu cwblhau yn gallu cael eu cyflwyno mwyach.

Dim ond swm penodol o arian sydd gennym i'w ddyfarnu

Disgwyliwn roi tua 400 i 500 o grantiau drwy'r rhaglen hon. Rydym yn disgwyl llawer o geisiadau am brosiectau gwerth chweil. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd ac efallai y bydd llawer o brosiectau na allwn eu hariannu.

Rydym yn awyddus i ariannu cymysgedd o gymunedau a lleoedd a byddwn yn ceisio lledaenu'r arian ledled y DU, ac amrywiaeth o weithgareddau sy'n cael eu darparu ar draws y prosiectau.

Os ydych yn gwneud cais, gwnewch yn siŵr bod eich prosiect yn bodloni'r hyn rydym yn chwilio amdano. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio pwy all a phwy na all wneud cais cyn llenwi'r ffurflen gais.

Felly, os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni. Bydd y tîm yn hapus i helpu. Gallwch hefyd wirio pa raglenni ariannu eraill y gallech wneud cais iddynt.

Gallwch wneud cais os oes gennych grant cyfredol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ond ni ddylai'r prosiect ddyblygu gwaith rydym eisoes yn eich ariannu i'w wneud. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi fod wedi derbyn arian gennym o'r blaen, ac rydym yn arbennig o awyddus i gefnogi grwpiau nad ydynt wedi cael arian gennym o'r blaen.

Faint o amser fydd yn ei gymryd i gael penderfyniad?

Byddwn yn ceisio rhoi penderfyniad i chi o fewn uchafswm o 12 wythnos.

Disgwyliwn i'r rhan fwyaf o'r arian gefnogi gweithgareddau sy'n digwydd ar ôl cynhadledd COP26 (sy'n rhedeg o 1 i 12 Tachwedd 2021).

Ni allwn dderbyn ceisiadau am weithgareddau sy’n digwydd yn ystod COP26 rhagor, gan na fyddem yn gallu rhoi penderfyniad i chi mewn amser.

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu. Rydym yn hapus i siarad am ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad.

Pa wybodaeth rydych chi ei hangen i wneud cais

Gofynnwn am fanylion cyswllt, cyfeiriadau cartref a dyddiadau geni dau berson gwahanol o'ch sefydliad.

Mae angen i'r ddau gyswllt gael cyfeiriadau e-bost gwahanol.

  • Dylai un person fod yn rhywun y gallwn siarad ag ef os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich prosiect
  • Dylai'r person arall fod yn uwch aelod o'ch sefydliad, a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am yr arian.

Mae angen i'r ddau fyw yn y DU.

Bydd angen i chi roi gwybod i'r uwch gyswllt eich bod yn cynnwys eu gwybodaeth fel rhan o'r cais.

Ni all y ddau berson hyn fod:

  • yn perthyn drwy waed
  • yn briod â’i gilydd
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad.

Rydym yn gofyn am enw cyfreithiol eich sefydliad - a'i gyfeiriad. A pha fath o sefydliad ydyw

Gwnewch yn siŵr bod y rhain yn gyfoes ac yn cyd-fynd ag unrhyw ddogfennau gwybodaeth neu hunaniaeth y gofynnwn amdanynt (pan fyddwch yn cyrraedd rhan y cais).

Gofynnwn am wybodaeth am gyfrifon eich sefydliad

Rydym am wybod y dyddiad y mae eich cyfrifon yn dod i ben bob blwyddyn a faint o incwm sydd gennych chi.

Os nad oes gennych gyfrifon blynyddol oherwydd eich bod yn sefydliad newydd (llai na 15 mis oed), mae hynny'n iawn. Gallwn barhau i edrych ar eich cais.

Anfonwch eich datganiad banc atom

Beth rydym angen

Gofynnwn am un datganiad banc dyddiedig o fewn y tri mis diwethaf. Er mwyn i ni allu gwirio'r cyfrif rydych am i ni dalu'r grant iddo. 

Ni fyddwn yn gallu asesu eich cais os nad oes gennych gyfrif banc a datganiad banc sy'n bodloni ein gofynion isod a bydd angen i chi ailymgeisio ar ôl i chi sefydlu'r rhain. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni

Rydym angen:

  1. Cyfrif banc sy'n bodloni ein hanghenion yn ein Canllawiau Rheolaethau Ariannol a Llywodraethu Ariannol
  2. Datganiad banc sy’n bodloni ein hanghenion.

Dylai ddangos:

  • logo’r banc 
  • enw cyfreithiol eich sefydliad
  • y cyfeiriad yr anfonir y datganiadau ato
  • enw’r banc rhif y cyfrif a’r cod didoli
  • y dyddiad y cyhoeddwyd y llythyr/datganiad

Dyma lun o’r math o ddatganiad banc rydyn ni’n chwilio amdano.

Byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth am eich prosiect

A sut y bydd eich prosiect yn bodloni'r blaenoriaethau sy’n cael eu rhestru yn Y prosiectau rydym yn eu hariannu

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi ymgeisio

  1. Rydych chi’n anfon eich cais atom - byddwn yn cysylltu â chi gyda phenderfyniad ymhen tua 12 wythnos. Yn ystod y 12 wythnos hyn, rydym yn edrych ar eich syniad ac yn gwneud ein gwiriadau diogelwch. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwiriadau a wnawn. Efallai y byddwn yn rhoi galwad i chi o fewn y 12 wythnos hynny, i siarad ychydig mwy am eich syniad neu i ofyn am ragor o wybodaeth.
  2. Os bydd eich cais yn llwyddiannus - byddwn yn anfon e-bost atoch gyda'r newyddion da. Gallwch ddechrau eich prosiect cyn gynted ag y cewch yr e-bost hwn, os dymunwch. A byddwn yn rhoi'r arian yn eich cyfrif banc o fewn 14 diwrnod (neu'n gynt, os yw'n bosibl).
  3. Byddwn yn cysylltu â phawb a wnaeth gais gyda mwy o wybodaeth am Gyda'n Gilydd ar gyfer Ein Planed a ffyrdd eraill o gymryd rhan.
  4. Gallwch ddechrau gwario'r grant ar eich prosiect - dylech wario'r grant yn y ffordd y gwnaethoch chi ddweud y byddech chi’n ei wario yn eich cais (oni bai ein bod wedi cytuno i rywbeth gwahanol yn gyntaf). Efallai y byddwn yn galw am sgwrs o bryd i'w gilydd - i weld sut mae pethau'n mynd. Dysgwch fwy am reoli eich grant
  5. Rhannwch stori eich prosiect – rhowch wybod i bobl am eich grant a'r gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud yn eich cymuned. Gall rhannu newyddion am eich prosiect gyda'ch cymuned fod yn ffordd wych o sicrhau eu bod nhw’n cymryd rhan ac yn ymgysylltu. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i hyrwyddo eich grant. Bydd eich e-bost dyfarnu hefyd yn cynnwys manylion ar sut i roi cyhoeddusrwydd i'ch grant a rhoi gwybod i bobl sut mae eich prosiect yn cefnogi pobl yn eich cymuned.

Rydyn ni’n gofyn i chi hefyd ddarllen a chytuno i'n telerau ac amodau

Darllenwch y telerau ac amodau.

Os ydych yn gwneud cais am grant ar gyfer gweithgareddau yn ystod cyfnod COP26, cysylltwch â ni ar caisprydeinig@cronfagymunedolylg.org.uk i drafod eich cais.

Os nad ydych chi’n siŵr am y math o bethau rydym yn gofyn amdanynt pan fyddwch yn ymgeisio

Cysylltwch â ni.

Gallwch hefyd ddarllen ein Datganiad Diogelu Data i ddarganfod sut rydym yn defnyddio'r data personol y byddwch chi’n ei roi i ni.

Pwy all ac na all wneud cais?

Gallwch wneud cais os ydych yn un o’r canlynol:

  • grŵp neu glwb a gyfansoddwyd
  • mudiad gwirfoddol neu gymunedol
  • elusen gofrestredig
  • corff ymgorfforedig elusennol (CIO/SCIO)
  • cwmni buddiannau cymunedol (CIC)
  • cwmni dielw
  • ysgol, coleg, prifysgol (cyn belled â bod eich prosiect yn elwa ac yn cynnwys y cymunedau lleol ehangach)
  • corff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymuned)
  • cymdeithas budd cymunedol.

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan y canlynol:

  • unigolion
  • hunan fasnachwyr
  • sefydliadau a all dalu elw i gyfarwyddwyr, cyfranddalwyr neu aelodau (gan gynnwys Cymunedau Gwarantedig drwy Gyfranddaliadau)
  • sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU
  • un unigolyn neu sefydliad sy'n gwneud cais ar ran unigolyn arall.

Aelodau'r Bwrdd neu'r pwyllgor

Mae'n bwysig iawn bod gan sefydliadau sy'n gwneud cais o leiaf ddau berson ar eu bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn gysylltiedig.

Drwy cysylltiedig, rydym yn golygu:

  • yn briod â'i gilydd
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • yn byw gyda'n gilydd yn yr un cyfeiriad
  • yn gysylltiedig drwy waed.

Rhaid i bob cwmni sy'n gwneud cais gael o leiaf ddau gyfarwyddwr nad ydynt yn gysylltiedig yn unrhyw un o'r ffyrdd hyn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gwmnïau sydd hefyd wedi'u cofrestru fel elusennau.

Os ydych yn ysgol neu'n sefydliad sy'n gweithio mewn ysgol

Mae angen i'ch prosiect gryfhau'r gymuned y tu allan i'r ysgol hefyd. Dylai fod er budd a chynnwys mwy na dim ond:

  • athrawon
  • disgyblion
  • rhieni disgyblion.

Ni fyddwn yn ariannu prosiectau ysgolion sydd:

  • yn gwella cyfleusterau neu offer ysgol nad ydynt ar gael i'r gymuned ehangach eu defnyddio
  • yn helpu gyda hyfforddiant staff
  • yn rhan o gwricwlwm yr ysgol
  • yn cynnwys gweithgareddau y dylai'r ysgol fod yn eu darparu eisoes (fel prosiect sy'n addysgu llythrennedd yn ystod oriau ysgol)
  • yn digwydd yn ystod amseroedd addysgu (gallai cyn ac ar ôl ysgol fod yn iawn).

Ni allwn dderbyn nifer o geisiadau gan yr un grŵp neu sefydliad.

Os nad ydych yn siŵr a allwch wneud cais

Cysylltwch â ni. Bydd y tîm yn hapus i helpu. Gallwch hefyd wirio pa raglenni ariannu eraill y gallech wneud cais iddynt.

Y prosiectau rydym yn eu hariannu

Er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl a chymunedau â phosibl yn gallu cymryd rhan, byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan y canlynol:

  • pobl a chymunedau sy'n cael eu taro galetaf gan newid yn yr hinsawdd
  • pobl a chymunedau sydd yn dechrau meddwl am weithredu ar yr hinsawdd
  • grwpiau nad ydynt wedi derbyn grantiau gennym o'r blaen
  • grwpiau nad oes ganddynt grant cyfredol gyda ni
  • sefydliadau llai sydd â throsiant blynyddol o lai na £100,000.

Gall sefydliadau eraill wneud cais, ond ystyriwch y ffactorau hyn yn gyntaf. Gallwch barhau i wneud cais os oes gennych grant cyfredol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ond ni ddylai'r prosiect ddyblygu gwaith rydym eisoes yn eich ariannu i'w wneud. Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn gwirio pwy all ac na all ymgeisio cyn llenwi'r ffurflen gais.

Gweithgareddau eich prosiect

Gallwn ariannu llawer o wahanol weithgareddau gweithredu yn yr hinsawdd. Dylai prosiectau adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i'ch cymuned a'r hyn y mae gweithredu yn yr hinsawdd yn ei olygu i chi. Gallant fod yn fach o ran maint ac efallai eu bod yn gynlluniau newydd i'ch cymuned neu efallai eu bod yn ymwneud â dathlu'r gwaith rydych eisoes yn ei wneud.

Gallent gynnwys themâu fel:

  • bwyd
  • trafnidiaeth
  • ynni
  • gwastraff a defnydd
  • yr amgylchedd naturiol.

Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr yn unrhyw un o'r meysydd hyn i wneud cais.

Rydym yn cydnabod y bydd angen i weithgareddau ymateb i reolau a rheoliadau penodol sy’n gysylltiedig â COVID-19 o hyd. Gwyddom hefyd fod y rhain yn debygol o amrywio ledled y DU. Rydym yn deall y bydd angen i brosiectau aros yn hyblyg ynglŷn â'r hyn y gallant ei wneud. Byddwn ni mor hyblyg ag y gallwn fod hefyd.

Rhaid i bob prosiect ymwneud â datblygu prosiect gweithredu ar yr hinsawdd dan arweiniad y gymuned. Bydd angen i'ch prosiect fodloni o leiaf dau o'r meini prawf hyn:

  1. Mae'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu gweithredu tymor hwy yn yr hinsawdd o fewn cymunedau (hynny yw, mynd y tu hwnt i ddigwyddiad COP26 ym mis Tachwedd).
  2. Mae'n annog cymunedau i gynllunio ar gyfer yr argyfwng hinsawdd - i ddechrau meddwl am yr hyn y gallai gweithredu ar yr hinsawdd ei olygu iddynt a pham mae'n bwysig.
  3. Mae'n dathlu pwysigrwydd gweithredu ar yr hinsawdd dan arweiniad y gymuned ac yn annog mwy o bobl i gymryd rhan.
  4. Mae'n meithrin gwytnwch mewn cymunedau sy'n cael eu taro galetaf gan newid yn yr hinsawdd.
  5. Mae'n darparu swyddi, sgiliau neu gyfleoedd hyfforddi i gymunedau sy'n cefnogi gweithredu yn yr hinsawdd.

Er bod COP26 yn ysbrydoli'r rhaglen hon, rydym yn awyddus i gefnogi etifeddiaeth mewn cymunedau y tu hwnt i'r digwyddiad ei hun. Os ydych yn ystyried gwneud cais am gostau ar gyfer digwyddiad untro, byddem hefyd yn disgwyl i chi gynnwys gweithgareddau sy'n digwydd y tu hwnt i'r digwyddiad.

Dylech ystyried effaith amgylcheddol eich prosiect a cheisio ailddefnyddio, lleihau ac ailgylchu lle bo hynny'n bosibl. Gallwch ddod o hyd i gymorth pellach i leihau effaith amgylcheddol eich grŵp ar ein tudalen canllawiau.

Y prosiectau rydym yn annhebygol o'u hariannu

  • ceisiadau am weithgareddau statudol
  • ceisiadau am brosiectau amgylcheddol ehangach nad ydynt yn cysylltu'n uniongyrchol â newid yn yr hinsawdd (er enghraifft casglu sbwriel cymunedol)
  • ceisiadau am gostau i fynychu digwyddiad COP26, fel cludiant neu lety.

Byddwn yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau

Rydym yn awyddus bod prosiectau'n adlewyrchu cymysgedd o gymunedau a lleoedd o bob rhan o'r DU. Byddwn yn sicrhau bod ariannu yn cael ei wneud yn ddaearyddol ledled y DU ac fod amrywiaeth o weithgareddau'n cael eu darparu ar draws y prosiectau.
Byddwn yn ystyried hyn wrth asesu eich cais yn erbyn eraill y byddwn ni’n eu derbyn.

Rhaid i chi gynnwys eich cymuned yn eich prosiect

Rydyn ni’n credu bod pobl yn deall yr hyn sydd ei angen yn eu cymunedau yn well na neb. Mae'n bwysig i ni eich bod yn cynnwys eich cymuned yn y gwaith o gynllunio, datblygu a chyflwyno'r gweithgareddau rydych chi’n eu cynllunio.

Mae'r fideo byr hwn yn ei esbonio'n dda - http://www.youtube.com/watch?v=qFkavT5kGSk

Efallai y byddai'n ddefnyddiol pan fyddwch yn rhoi eich cais at ei gilydd.

Cyflawni eich prosiect yn Gymraeg

Pan fyddwch yn derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect yng Nghymru, bydd angen i chi ei gyflwyno yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg a sicrhau bod eich holl weithgareddau ar gael i'ch cymuned yn y ddwy iaith. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog neu cysylltwch â Thîm yr Iaith Gymraeg yn cymorthcymraeg@cronfagymuendolylg.org.uk.

Os yw eich prosiect yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion bregus

Mae angen i chi gael polisi ar waith sy'n esbonio sut y byddant yn ddiogel. Ac efallai y byddwn yn gofyn am gael gweld y polisi hwn os penderfynwn roi grant i chi. Mae gan yr NSPCC lawer o gyngor defnyddiol am sefydlu a dilyn polisïau diogelu plant da.

Os nad ydych yn siŵr am y math o brosiectau rydym yn eu hariannu

Gallwch gysylltu â ni bob amser.

Beth allwch chi wario'r arian arno?

Gallwn dalu am weithgareddau neu eitemau, sy'n costio cyfanswm rhwng £1,000 a £10,000, a fydd yn cefnogi eich cymuned i weithredu ar yr hinsawdd. Gallai'r rhain fod yn weithgareddau sy'n dod â phobl at ei gilydd i siarad am yr hyn sy'n bwysig iddynt a'r hyn maen nhw am ei wneud, digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth neu gyrraedd aelodau eraill o'r gymuned, neu offer i gefnogi rhywbeth fel prosiect tyfu cymunedol.

Rhaid i chi wario'r arian o fewn 12 mis i'w gael.

Nid yw'r rhestrau hyn yn cynnwys popeth. Felly, os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni.

Gallwn ariannu:

  • ymchwil dan arweiniad y gymuned, astudiaethau dichonoldeb neu waith i greu cynllun ar beth a sut fydd gweithredu ar yr hinsawdd ar gyfer eich cymuned
  • digwyddiadau a chostau gweithgareddau
  • offer a deunyddiau
  • costau staff (sy'n gymesur â'r gweithgaredd a ariannwyd)
  • costau hyfforddi
  • costau cludiant sy'n gysylltiedig â'ch prosiect (ond ni allwn ariannu costau teithio i ddigwyddiad COP26 ac o ddigwyddiad COP26)
  • cyfleustodau neu gostau cynnal sy'n gysylltiedig â'ch prosiect
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • costau yn gysylltiedig â chyflwyno eich prosiect yn ddwyieithog megis costau cyfieithu
  • prosiectau tir neu adeiladu bach. Bydd angen i chi naill ai:
    • fod yn berchen ar y tir neu'r adeilad
    • cael prydles na ellir ei derfynu am bum mlynedd
    • cael llythyr gan y perchennog yn dweud y bydd y tir neu'r adeilad yn cael ei brydlesu i chi am o leiaf bum mlynedd, neu
    • cael llythyr swyddogol gan y perchennog neu'r landlord sy'n dweud eich bod yn cael gwneud gwaith ar y tir neu'r adeilad a dylech hefyd ystyried cael caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith.

Gallwn ariannu rhai costau cyfalaf fel rhan o brosiect ehangach (er enghraifft, gwelyau uchel o fewn prosiect gardd gymunedol). Fodd bynnag, ni fyddem yn debygol o ariannu prosiect cyfalaf yn unig.

Er bod COP26 yn ysbrydoli'r rhaglen hon, rydym yn awyddus i gefnogi etifeddiaeth mewn cymunedau y tu hwnt i'r digwyddiad ei hun. Os ydych yn ystyried gwneud cais am gostau ar gyfer digwyddiad untro, byddem hefyd yn disgwyl i chi gynnwys gweithgareddau sy'n digwydd y tu hwnt i'r digwyddiad.

Ni allwn ariannu:

  • alcohol
  • eitemau a fydd o fudd i unigolyn neu deulu yn unig, yn hytrach na'r gymuned ehangach
  • costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddolion neu log
  • cynhyrchu trydan
  • gweithgareddau gwleidyddol
  • gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad yw'n ymwneud â chynnwys crefyddol)
  • gweithgareddau gwneud elw neu godi arian
  • TAW y gallwch ei hadfer
  • gweithgareddau statudol
  • costau yr ydych wedi mynd iddynt eisoes
  • gweithgareddau sy'n gwella cyrhaeddiad addysgol - addysg bersonol, cymdeithasol, iechyd ac economaidd (PHSE), gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), Saesneg
  • teithio dramor neu brosiectau sy'n digwydd y tu allan i'r DU.

Os nad ydych yn siŵr a allwch wneud cais

Cysylltwch â ni. Bydd y tîm yn hapus i helpu. Gallwch hefyd wirio pa raglenni ariannu eraill y gallech wneud cais iddynt.