Y Gronfa Jiwbilî Platinwm

Planetary Boundaries, Birmingham

Mae'r rhaglen hon ar gau i geisiadau.

Mae’r rhaglen hon bellach wedi cau i geisiadau. Ewch i Raglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol lle mae gwybodaeth am grantiau sydd ar gael i gefnogi digwyddiadau neu ddathliadau cymunedol i nodi blwyddyn y Jiwbilî Platinwm drwy gydol 2022.

Mae'r Jiwbilî Platinwm yn dathlu 70 mlynedd o deyrnasiad Ei Mawrhydi Y Frenhines ac i nodi'r achlysur hwn, bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ariannu 70 o brosiectau ledled y DU.

Mae hon yn foment Genedlaethol sylweddol, ac yr ydym yn chwilio am brosiectau sy'n mynd y tu hwnt i ddathlu ond i'r rhai sy'n creu newid i gymunedau.

Rydym am ariannu prosiectau sy'n creu mwy o etifeddiaeth i'n lleoedd a'n mannau, ac sy'n cefnogi cyfleoedd, gweithgareddau newydd ac yn meithrin gwell perthynas â'i gilydd, ar draws cenedlaethau a chyda'r byd naturiol.

Bydd angen i brosiectau a ariennir fod ar waith erbyn Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines ar 5 Mehefin 2022.

Rydym yn bwriadu gwneud ein penderfyniadau terfynol ar ba brosiectau i'w hariannu yng Ngwanwyn 2022. Felly, byddem yn disgwyl i'r prosiectau a ariennir gennym o dan y rhaglen hon ddechrau o Wanwyn 2022 ymlaen.

Byddwn yn gweithio gyda'r holl brosiectau a ariennir fel y gallwn rannu a chodi eich gwaith yn gyhoeddus erbyn penwythnos y Jiwbilî ar 4 a'r 5 o Fehefin 2022.

Ein tri maes ffocws yw:

1. Ar draws Cenedlaethau - Cryfhau'r berthynas rhwng cenedlaethau a chreu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

  • Prosiectau sy'n cysylltu pobl ar draws cenedlaethau drwy wneud gweithgareddau gyda'i gilydd
  • Prosiectau sy'n ystyried cenedlaethau'r dyfodol a sut y gall y Jiwbilî adael etifeddiaeth iddynt yn y gymuned
  • Prosiectau a gynlluniwyd ac a arweinir gan bobl ifanc sydd am fod yn fwy egnïol wrth lunio dyfodol eu cymunedau

2. Adnewyddu Cymunedol - Cefnogi cyfleoedd newydd i bobl ddatblygu sgiliau a phrofiadau yn eu cymuned leol, yn ogystal â chyfleoedd i ddod â phobl at ei gilydd mewn ffyrdd a mannau newydd neu wahanol.

  • Mae'r prosiect yn defnyddio safleoedd neu fannau lleol sylweddol – parciau, adeiladau treftadaeth, mannau cymunedol ac ati.
  • Mae'r prosiect yn creu cyfleoedd newydd i'r bobl sy'n byw'n lleol gyfrannu a/neu i feithrin sgiliau a phrofiad
  • Mae'r prosiect yn rhoi rhywbeth newydd (cyfres o weithgareddau, grŵp, gofod cymunedol, gwasanaeth, rhwydwaith) sy'n nodi'r Jiwbilî fel trobwynt yn y gymuned

3. Ein Byd Naturiol a Rennir - Tyfu ein gofal a'n gweithredu'n lleol ar gyfer y byd naturiol.

  • Mae'r prosiect yn cychwyn gweithredu ar y cyd mewn perthynas â'r byd naturiol yn lleol - gan roi cyfle i fwy o bobl ofalu am y blaned ar lefel leol

Ar draws yr holl geisiadau byddwn yn chwilio ac yn blaenoriaethu prosiectau sy'n:

  • defnyddio creadigrwydd y gymuned
  • eisiau gwneud rhywbeth newydd a dyfeisgar
  • dod â chyfleoedd newydd
  • defnyddio safleoedd o arwyddocâd lleol
  • defnyddio niferoedd o sianeli y gall pobl gymryd rhan ynddynt
  • a fydd yn cael effaith ar fwy nag un o'r meysydd ffocws uchod, a
  • rydym yn arbennig o awyddus i weld ceisiadau'n cael eu harwain gan bobl ifanc.

Darllenwch y blog hwn am rai enghreifftiau o'r mathau o brosiectau y byddwn ac na fyddwn yn eu hariannu.

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Addas ar gyfer Sefydliadau a grwpiau gwirfoddol neu gymunedol lleol bach  
Maint yr ariannu
o £30,000 i £50,000 am hyd at 2 flynedd.
Cyfanswm ar gael
£3.5 miliwn
Terfyn amser ymgeisio

Mae'r rhaglen hon ar gau i geisiadau.

Sut i ymgeisio

Mae'r rhaglen hon ar gau.

Dim ond swm penodol o arian sydd gennym i'w ddyfarnu a dim ond 70 o ddyfarniadau y byddwn yn eu gwneud.

Rydym yn disgwyl llawer o geisiadau, a bydd llawer ohonynt ar gyfer prosiectau gwerth chweil. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd. Yn aml, mae llawer o brosiectau na allwn eu hariannu, hyd yn oed rhai da.

Er mwyn ceisio rheoli’r galw, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i dderbyn hyd at 700 o geisiadau yn unig (neu gau i geisiadau ar Ragfyr 15 2021 os daw hyn yn gynt).

Byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan grwpiau sydd:

  • heb dderbyn grant gennym o'r blaen
  • nad oes ganddynt grant cyfredol gyda ni
  • yn sefydliadau neu'n grwpiau llai neu ganolig sydd â throsiant blynyddol o lai na £100,000
  • neu yn sefydliadau a all ddangos i ni fod ganddynt gyrhaeddiad sylweddol i gymunedau ac yn gallu ymgysylltu â nifer fawr o bobl i gymryd rhan
  • gweithio mewn cymunedau lle mae hanes o lai o gyfleoedd ariannu.
  • gweithio mewn ardaloedd lle rydym yn gwybod bod cymunedau'n wynebu amgylchiadau economaidd heriol.

Gall sefydliadau eraill wneud cais ond ystyriwch y ffactorau hyn yn gyntaf cyn ichi gymryd yr amser i ymgeisio.

Noder na allwn ariannu costau cyfalaf drwy'r Rhaglen Jiwbilî Platinwm. Lle mae'r costau'n hanfodol ar gyfer cefnogi gweithgarwch eich prosiect, gallwn ystyried swm bach o gyfalaf (o dan £10,000) fel rhan o'ch cyllideb.

Beth ydym ni'n ei olygu wrth gostau cyfalaf?

Costau cyfalaf yw costau gwaith tir neu adeilad, prynu offer, dodrefn, safleoedd neu eitemau eraill sy'n costio symiau sylweddol ac a fydd yn para am nifer o flynyddoedd. Er enghraifft, mae costau prynu cyfrifiaduron, bws mini neu eiddo newydd i gyd yn gostau cyfalaf. Costau refeniw yw'r holl gostau eraill.

Sicrhewch eich bod yn gwirio pwy all ac na all ymgeisio cyn llenwi ffurflen gais.

Faint o amser fydd yn ei gymryd i cael penderfyniad?

Byddwn yn anelu at ddweud wrthych am benderfyniad ymhen tua deufis fel bod gennych ddigon o amser i baratoi ar gyfer eich prosiect i ddechrau ochr yn ochr â'r Jiwbilî yn Mehefin 2022.

Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi lenwi ffurflen gais

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu. Rydym yn hapus i siarad am ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad.

Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud cais

Gofynnwn i ddau berson gwahanol o'ch sefydliad fod yn gysylltiadau ar gyfer y prosiect:

  • dylai un person fod yn rhywun y gallwn siarad ag e os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich prosiect
  • dylai'r person arall fod yn uwch aelod o'ch sefydliad, a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am y grant.

Mae’r ddau angen byw yn y DU.

Rydym angen eu:

  • henwau
  • manylion cyswllt
  • cyfeiriadau cartref
  • dyddiadau geni.

Mae angen i'r ddau gyswllt gael cyfeiriadau e-bost gwahanol.

Bydd angen i chi roi gwybod i'r uwch gyswllt eich bod yn cynnwys eu gwybodaeth fel rhan o'r cais.

Ni all y ddau berson hyn fod:

  • yn gysylltiedig drwy waed
    yn briod â'i gilydd
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad.

Gofynnwn am enw cyfreithiol eich sefydliad - a'i gyfeiriad. A pha fath o sefydliad ydyw

Gwnewch yn siŵr bod y rhain yn gyfredol ac yn cyd-fynd ag unrhyw wybodaeth neu ddogfennau adnabod y gofynnwn amdanynt (pan fyddwch yn cyrraedd y cais). Efallai na fydd 'enw cyfreithiol' eich sefydliad yr un fath â'ch enw o ddydd i ddydd. Eich enw cyfreithiol yw'r un a ddangosir ar eich dogfen lywodraethol (fel eich cyfansoddiad, gweithred ymddiriedolaeth, memorandwm neu erthyglau cymdeithasu).

Gofynnwn am wybodaeth am gyfrifon eich sefydliad

Rydym am wybod y dyddiad y mae eich cyfrifon yn gorffen bob blwyddyn a faint o incwm sydd gennych.

Os nad oes gennych gyfrifon blynyddol oherwydd eich bod yn sefydliad newydd (llai na 15 mis oed), mae hynny'n iawn. Gallwn barhau i edrych ar eich cais.

Anfonwch eich datganiad banc atom

Beth rydym angen

Gofynnwn am un datganiad banc dyddiedig o fewn y tri mis diwethaf. Er mwyn i ni allu gwirio'r cyfrif rydych am i ni dalu'r grant iddo. 

Ni fyddwn yn gallu asesu eich cais os nad oes gennych gyfrif banc a datganiad banc sy'n bodloni ein gofynion isod a bydd angen i chi ailymgeisio ar ôl i chi sefydlu'r rhain. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni

Rydym angen:

  1. Cyfrif banc sy'n bodloni ein hanghenion yn ein Canllawiau Rheolaethau Ariannol a Llywodraethu Ariannol
  2. Datganiad banc sy’n bodloni ein hanghenion.

Dylai ddangos:

  • logo’r banc 
  • enw cyfreithiol eich sefydliad
  • y cyfeiriad yr anfonir y datganiadau ato
  • enw’r banc rhif y cyfrif a’r cod didoli
  • y dyddiad y cyhoeddwyd y llythyr/datganiad

Dyma lun o’r math o ddatganiad banc rydyn ni’n chwilio amdano.

Gofynnwn i chi am wybodaeth am ba fath o brosiect yr hoffech ei wneud

A sut y bydd eich prosiect yn bodloni'r meini prawf a restrir yn 'Y prosiectau rydym yn eu hariannu'.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais

  1. Byddwch yn anfon eich cais atom - byddwn yn cysylltu â chi gyda phenderfyniad mewn tua dau fis. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn edrych ar eich syniad ac yn gwneud ein gwiriadau diogelwch. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwiriadau a wnawn. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnom am eich syniad i helpu gyda'n penderfyniad, efallai y byddwn yn rhoi galwad i chi neu'n anfon e-bost atoch.
  2. Os bydd eich cais yn llwyddiannus - byddwn yn cysylltu â chi gyda'r newyddion da! Unwaith y byddwch wedi cael arian gennym, dyma beth i'w ddisgwyl. Bydd y dudalen hon hefyd yn rhoi gwybod i chi am y pethau y mae angen i chi eu gwneud.
  3. Os yw eich cais yn aflwyddiannus - byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi am ein penderfyniad
  4. Gallwch ddechrau gwario'r arian ar eich prosiect - dylech wario'r arian fel y dywedasoch y byddech yn eich cais (oni bai ein bod wedi cytuno i rywbeth gwahanol yn gyntaf).
    Efallai y byddwn yn eich cysylltu o bryd i'w gilydd - i weld sut mae pethau'n mynd. 
  5. Rhannwch eich stori – rhowch wybod i bobl am eich grant a'r gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud yn eich cymuned. Gall rhannu newyddion am eich prosiect gyda'ch cymuned fod yn ffordd wych o'u cadw i gymryd rhan ac ymgysylltu. Bydd eich e-bost am ddyfarniad hefyd yn cynnwys manylion ar sut i roi cyhoeddusrwydd i'ch grant a rhoi gwybod i bobl am sut mae eich prosiect yn cefnogi pobl yn eich cymuned.

Gofynnwn hefyd i chi ddarllen a chytuno i'n telerau ac amodau

Gallwch ddarllen y telerau ac amodau.

Os nad ydych yn siŵr am y math o bethau y gofynnwn amdanynt pan fyddwch yn gwneud cais

Cysylltwch â ni.

Gallwch hefyd ddarllen ein Datganiad Diogelu Data i ddarganfod sut rydym yn defnyddio'r data personol rydych yn ei roi i ni.

Pwy all ac na all wneud cais

Pwy all ymgeisio?

Gallwch wneud cais os ydych yn:

  • sefydliad gwirfoddol neu gymunedol
  • elusen gofrestredig
  • grŵp neu glwb wedi'i gyfansoddi
  • cwmni dielw neu Gwmni Buddiannau Cymunedol
  • ysgol (cyn belled â bod eich prosiect yn elwa ac yn cynnwys y cymunedau o amgylch yr ysgol)
  • corff statudol (gan gynnwys cyngor tref, plwyf a chymunedol neu gyngor lleol).

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • sefydliadau sydd â'r nod o gynhyrchu elw yn bennaf ar gyfer dosbarthu preifat
  • sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU
  • un unigolyn neu sefydliad sy'n gwneud cais ar ran un arall
  • pobl dan 18 oed

Aelodau'r Bwrdd neu bwyllgor

Mae'n bwysig iawn bod gan sefydliadau sy'n gwneud cais o leiaf ddau berson ar eu bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn gysylltiedig.

Drwy cysylltiedig, rydym yn golygu:

  • yn briod â'i gilydd
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad
  • yn gysylltiedig drwy waed.

Rhaid i bob cwmni sy'n gwneud cais gael o leiaf ddau gyfarwyddwr nad ydynt yn gysylltiedig yn unrhyw un o'r ffyrdd hyn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gwmnïau sydd hefyd wedi'u cofrestru fel elusennau.

Os ydych chi'n ysgol neu'n sefydliad sy'n gweithio mewn ysgol

Mae angen i'ch prosiect gryfhau'r gymuned y tu allan i'r ysgol hefyd. Dylai elwa a chynnwys mwy na dim ond:

  • athrawon
  • disgyblion
  • rhieni disgyblion.

Ni fyddwn yn ariannu prosiectau ysgol sy'n:

  • gwella cyfleusterau neu offer ysgol nad ydynt ar gael i'r gymuned ehangach eu defnyddio
  • helpu gyda hyfforddiant staff
  • rhan o gwricwlwm yr ysgol
  • cynnwys gweithgareddau y dylai'r ysgol fod yn eu darparu eisoes (fel prosiect sy'n addysgu llythrennedd yn ystod oriau ysgol)
  • digwydd yn ystod amseroedd addysgu (gallai cyn ac ar ôl ysgol fod yn iawn).

Ni allwn dderbyn nifer o geisiadau gan yr un grŵp neu sefydliad.

Os nad ydych yn siŵr a allwch wneud cais

Cysylltwch â ni. Bydd y tîm yn hapus i helpu. Gallwch hefyd wirio pa raglenni ariannu eraill byddwch yn gallu gwneud cais i.

Y prosiectau rydym yn eu hariannu

Bydd angen i'ch prosiect fodloni o leiaf dau o'r meini prawf hyn:

  • cysylltu pobl ar draws cenedlaethau drwy wneud gweithgareddau gyda'i gilydd
  • defnyddio safleoedd neu fannau lleol sylweddol – parciau, adeiladau treftadaeth, mannau cymunedol ac ati.
  • yn ystyried cenedlaethau'r dyfodol a sut y gall y Jiwbilî adael etifeddiaeth iddynt yn y gymuned
  • yn creu cyfleoedd newydd i'r bobl sy'n byw'n lleol gyfrannu a/neu i feithrin sgiliau a phrofiad
  • dechrau rhywbeth newydd (cyfres o weithgareddau, grŵp, gofod cymunedol, gwasanaeth, rhwydwaith) sy'n nodi'r Jiwbilî fel trobwynt yn y gymuned
  • wedi'i gynllunio a'i arwain gan bobl ifanc sydd am fod yn fwy gweithgar wrth lunio dyfodol eu cymunedau
  • dechrau gweithredu ar y cyd mewn perthynas â'r byd naturiol yn lleol - gan roi cyfle i fwy o bobl ofalu am y blaned ar lefel leol

Gallwch wneud cais os oes gennych grant cyfredol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Byddwn yn ystyried sut y byddai'r grant hwn yn ategu ac yn effeithio ar ddyfarniadau sy'n bodoli eisoes yn ystod y broses asesu.

Rydym yn cydnabod y bydd angen i weithgareddau ymateb i reolau a rheoliadau cyfnod clo penodol. Gwyddom hefyd fod y rhain yn debygol o amrywio ledled y DU. Rydym yn deall y bydd angen i brosiectau aros yn hyblyg ynglŷn â'r hyn y gallant ei wneud. Byddwn mor hyblyg ag y gallwn ni hefyd.

Byddwn yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau

Rydym yn awyddus bod prosiectau'n adlewyrchu cymysgedd o gymunedau a lleoedd o bob rhan o'r DU. Byddwn yn sicrhau bod arian yn cael ei ledaenu'n ddaearyddol ledled y DU ac amrywiaeth o weithgareddau'n cael eu darparu ar draws y prosiectau.

Byddwn yn ystyried hyn wrth asesu eich cais yn erbyn eraill a dderbyniwn.

Rhaid i chi gynnwys eich cymuned yn eich prosiect

Credwn fod pobl yn deall yr hyn sydd ei angen yn eu cymunedau'n well na neb arall. Mae'n bwysig i ni eich bod yn cynnwys eich cymuned wrth ddylunio, datblygu a chyflwyno'r gweithgareddau rydych yn eu cynllunio.

Mae'r fideo byr hwn yn ei esbonio'n dda - https://www.youtube.com/watch?v=ZbKic9HWQlg&t=10s. Efallai y byddai'n ddefnyddiol pan fyddwch yn rhoi eich cais at ei gilydd.

Darparu eich prosiect yn Gymraeg

Pan fyddwch yn derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect yng Nghymru, bydd angen i chi ei gyflwyno yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg a sicrhau bod eich holl weithgareddau ar gael i'ch cymuned yn y ddwy iaith. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog neu cysylltwch â Thîm y Gymraeg ar cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk.

Os yw eich prosiect yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed

Mae angen i chi gael polisi ar waith sy'n esbonio sut y byddant yn ddiogel. Efallai y byddwn yn gofyn am gael gweld y polisi hwn os byddwn yn penderfynu rhoi grant i chi. Mae gan yr NSPCC lawer o gyngor defnyddiol ar sefydlu a dilyn polisïau diogelu plant da.

Os nad ydych yn siŵr am y math o brosiectau rydym yn eu hariannu

Gallwch o hyd gysylltu â ni.

Yr hyn y gallwch wario arian arno

Gallwn dalu am weithgareddau neu eitemau, gan gostio rhwng £30,000 a £50,000 sy'n bodloni o leiaf dau o'r meini prawf ariannu.

Rhaid i chi wario'r arian o fewn dwy flynedd i'ch dyfarniad.

Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth. Felly, os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni.

Gallwn ariannu:

  • costau digwyddiadau a gweithgareddau (ond nid digwyddiadau dathlu)
  • offer a deunyddiau
  • costau staff
  • Amser pobl (efallai nad yw hynny'n staff)
  • costau hyfforddi
  • trafnidiaeth
  • cyfleustodau/costau rhedeg sy'n gysylltiedig â'ch syniad
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • costau cyfieithu (er enghraifft, i ieithoedd eraill fel y Gymraeg)
  • Dylech ystyried effaith amgylcheddol eich prosiect a cheisio ailddefnyddio, lleihau ac ailgylchu lle bo hynny'n bosibl.

Ni allwn ariannu:

  • gweithgareddau y tu allan i'r DU
  • costau cyfalaf gan gynnwys adnewyddu neu brynu adeiladau
  • alcohol
  • eitemau a fydd ond o fudd i unigolyn neu deulu, yn hytrach na'r gymuned ehangach
  • costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddol neu log
  • taliadau tariff bwydo i mewn
  • gweithgareddau gwleidyddol
  • gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad yw'n cynnwys crefyddol)
  • gweithgareddau gwneud elw/codi arian
  • TAW y gallwch ei adennill
  • gweithgareddau statudol (er enghraifft, dim ond gweithgareddau ysgol sy'n ychwanegol at y cwricwlwm y gallwn eu hariannu)
  • teithio dramor
  • gweithgareddau sy'n cynhyrchu elw er budd preifat
  • costau sydd eisoes wedi'u hysgwyddo
  • gweithio ar dir neu adeiladau lle nad ydych yn bodloni ein gofynion o ran perchnogaeth tir a chaniatadau - darllenwch 'Y prosiectau rydym yn eu hariannu' i gael rhagor o wybodaeth.

Mae angen i ni hefyd sicrhau bod ein cyllid yn cydymffurfio a chymhorthdal

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni sicrhau nad yw ein cyllid grant o bosibl yn achosi ystumiad, neu niwed i gystadleuaeth, masnach neu fuddsoddiad ym marchnad yn y DU a rhyngwladol, trwy roi budd (hy: mantais economaidd) sydd ddim ar delerau’r farchnad i dderbynnydd grant

Os yw eich prosiect yn cynnwys rhyw rath o weithgaredd economaidd (er enghraifft, caffi neu ryw weithgaredd cynhyrchu refeniw arall), cysylltwch â ni i drafod a fydd cymhorthdal yn berthnasol. Mewn llawer o achosion, efallai y gallwn ariannu eich prosiect trwy lwybr a ddarperir o dan Gyfundrefn Rheoli Cymhorthdal.

Os ydych chi'n barod i ddechrau eich cais

Ymgeisio ar-lein

Os nad ydych yn siŵr a allwch wneud cais  

Cysylltwch â ni. Bydd y tîm yn hapus i helpu. Gallwch hefyd wirio pa raglenni ariannu eraill efallai y byddwch yn gallu gwneud cais iddo.