Camau Cynaliadwy Cymru - Grantiau Gweithredu

Partneriaeth Ogwen

Mae'r rhaglen hon bellach ar gau i geisiadau newydd. Mae'r dudalen hon yn rhoi crynodeb o'r rhaglen.

Gwnaethom ddyfarnu 14 o grantiau i brosiectau sy’n:

  • mynd i’r afael â newid hinsawdd mewn cymunedau
  • helpu pobl i fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Ardal
Cymru
Yn addas ar gyfer
Sefydliadau gwirfoddol neu sefydliadau sector cyhoeddus sy'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau gwirfoddol
Terfyn amser ymgeisio

Mae'r rhaglen hon bellach ar gau

Ynghylch Camau Cynaliadwy Cymru

Mae pedair rhaglen Camau Cynaliadwy Cymru. Cefnogir y rhaglenni hyn gydag arian o’r Cynllun Asedau Segur. Mae'r rhaglenni'n cefnogi ymrwymiad Cymru i:

  • creu dyfodol cynaliadwy
  • cyrraedd cynulleidfaoedd newydd sydd eisiau gweithredu ar newid hinsawdd

Mae rhaglenni eraill Camau Cynaliadwy Cymru yn cynnwys:

Camau Cynaliadwy Cymru – Grantiau Egin

Nod y rhaglen hon yw helpu grwpiau cymunedol yng Nghymru. Bydd y rhaglen yn eu cefnogi i weithredu ar newid hinsawdd a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy. Mae'n agored i grwpiau sy'n derbyn cefnogaeth gan Gamau Cynaliadwy Cymru - Gwasanaeth Mentora Egin. Gallwch ddysgu rhagor am Grantiau Egin ar ein gwefan.

Camau Cynaliadwy Cymru - Gyrfaoedd Gwyrdd

Mae'r rhaglen hon yn agored i bartneriaethau sy'n helpu pobl ifanc i gael mynediad at yrfaoedd sy’n:

  • lleihau allyriadau carbon
  • adfer byd natur
  • ein helpu i addasu i'n hinsawdd newidiol.

Os hoffech ymgeisio, rhaid i chi anfon ffurflen mynegi diddordeb atom erbyn 5pm, 30 Ebrill 2024.

Camau Cynaliadwy Cymru – Mentora

Mae'r rhaglen hon bellach ar gau.

Nod y rhaglen hon yw helpu cymunedau i gyfrannu at ddyfodol llewyrchus, carbon isel i Gymru.​

Derbyniodd Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (CYD Cymru) £2.2 miliwn. Maent yn darparu cymorth mentora i grwpiau cymunedol ledled Cymru i weithredu ar newid hinsawdd.

I gael rhagor o wybodaeth:

Prosiectau a ariannwyd

Mae’r prosiectau sydd wedi derbyn grantiau’n cynnwys:

The John Burns Foundation

Mae The John Burns Foundation wedi partneru gyda Gwasanaeth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ac Ymestyn yn Ehangach (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant). Maen nhw wedi derbyn grant £350,000 i weithio gyda 400 o bobl o Gydweli a Sir Gaerfyrddin. Bydd y grant hwn yn newid sut mae pobl yn prynu ac yn paratoi bwyd i leihau allyriadau carbon.

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i ddysgu sut i dyfu a choginio bwyd iach. Byddant hefyd yn mynd â'r cynnyrch ffres y maent wedi'i dyfu adref.

Going Green for a Living Community Land Trust Ltd

Bydd Going Green for a Living Community Land Trust Ltd yn gweithio yn Y Drenewydd, Powys. Maent wedi partneru â Lightfoot Enterprises a Circular Economy Mid Wales. Maen nhw wedi derbyn grant £334,843 i helpu'r gymuned i leihau allyriadau carbon. Bydd hefyd yn helpu newid ymddygiad sy'n ymwneud â gweithredu hinsawdd.

Bydd y prosiect yn:

  • darparu archwiliadau ynni cartref gyda chyngor ynghylch gweithredu hinsawdd
  • defnyddio data archwilio i gyrraedd ysgolion
  • adeiladu adnoddau addysgiadol ar gyfer ysgolion a chymunedau
  • sefydlu cyfres o ddigwyddiadau cymunedol (fel siopau cyfnewid gwisg ysgol a gweithdai sgiliau trwsio).

Social Farms and Gardens

Derbyniodd Social Farms and Gardens grant £331,100. Nod eu prosiect yw uwchsgilio 35 o brosiectau tyfu cymunedol presennol ledled Cymru. Bydd gweithdai a gweithgareddau yn helpu pobl i ymgysylltu â phrosiectau tyfu. Bydd hefyd yn helpu pobl i weithredu ar yr hinsawdd yn eu bywydau bob dydd. Gall hyn fod drwy weithredoedd fel:

  • tyfu
  • compostio
  • gwastraffu llai o fwyd
  • ailddefnyddio adnoddau
  • ailgylchu
  • prynu cynnyrch lleol
  • siopa tymhorol.

Circular Communities Cymru CIC

Nod Circular Communities Cymru CIC yw newid barn ac ymddygiad pobl tuag at blastig. Maen nhw wedi derbyn grant £338,542 i annog pobl i stopio ystyried plastig fel deunydd tafladwy. Nod y prosiect yw helpu pobl i ystyried plastig fel adnodd.

Bydd y prosiect yn cynyddu ailgylchu ac ailddefnyddio gwastraff plastig o fewn cymunedau. Ei nod yw lleihau costau trafnidiaeth ac allyriadau carbon sy'n gysylltiedig ag ailgylchu plastigau. Yn ogystal â helpu'r tîm i ymgysylltu â chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli.

Y Dref Werdd

Derbyniodd Y Dref Werdd grant £347,840 i ddarparu gweithgareddau yn ardal Bro Ffestiniog. Nod y prosiect yw helpu ac annog pobl i gymryd rhan mewn gweithredu hinsawdd. Bydd yn rhoi sgiliau ymarferol i bobl fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a lleihau eu hôl troed carbon. Bydd y prosiect yn:

  • creu ardaloedd tyfu ffrwythau a llysiau ar draws tri safle
  • cael banc log
  • datblygu cynllun plannu coed cymunedol (i leihau nwyon a denu mwy o fioamrywiaeth)
  • darparu gweithgareddau mewn ysgolion sy'n annog disgyblion i gynnwys materion newid hinsawdd yn eu Cynlluniau Eco Ysgolion
  • ailgylchu hen feiciau yn e-feiciau i'w defnyddio gan y gymuned trwy ehangu caffi trwsio.

The Community Impact Initiative CIC

Mae The Community Impact Initiative CIC wedi partneru â Rounded Development Enterprises ac Afallen. Maen nhw wedi derbyn grant £348,558. Bydd y grant hwn yn helpu prosiectau adfywio cymunedol yn Ne Cymru. Nod y prosiect yw adfer tri adeilad sy'n wag ac mewn cyflwr gwael. Bydd hefyd yn addysgu'r buddiolwyr ynghylch technegau newid hinsawdd newydd.

Growing Space

Mae Growing Space yn gweithio gyda Blaenau Gwent CBC, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Tai Calon a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Maen nhw wedi derbyn grant £247,030. Bydd y prosiect yn darparu Rhaglen Hyfforddi Newid Hinsawdd. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:

  • tyfu cynnyrch
  • plannu coed
  • ailgylchu dodrefn
  • cymwysterau amgylcheddol.

Nod y prosiect yw newid agweddau ac ymddygiad pobl o ran gweithredu hinsawdd. Bydd yn gweithio gyda phobl sy'n wynebu amddifadedd lluosog neu sydd ar incwm isel. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig Gwent.

Gilfach Goch Community Association Limited

Bydd Gilfach Goch Community Association Limited yn helpu pobl i weithredu ar yr hinsawdd. Byddant yn gweithio yn Gilfach Goch a'r ardaloedd cyfagos yn Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr. Maen nhw wedi derbyn grant £350,000. Nod y prosiect yw adeiladu ar ddarpariaeth bresennol a newid ymddygiad yn y gymuned. Bydd yn gwneud hyn drwy dyfu cymunedol, lleihau gwastraff a lleihau defnydd.

Innovate Trust Ltd

Mae Innovate Trust Ltd wedi partneru gydag Able Radio a Skills and Volunteering Cymru. Byddant yn gweithio gyda 300 o unigolion ag anableddau dysgu o Gymru. Bydd y prosiect yn cefnogi pobl i weithredu ar yr hinsawdd a byw'n fwy cynaliadwy.

Derbyniodd Innovate Trust Ltd grant £148,000 er mwyn adnabod camau gweithredu a all leihau ôl troed carbon pobl trwy eu ap mewnwelediad. Gall pobl weithredu trwy weithgareddau ar-lein hybrid neu mewn gweithgareddau wyneb yn wyneb. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys:

  • ffyrdd o ddefnyddio llai o ynni a chynhyrchu llai o wastraff
  • garddio carbon isel
  • dysgu pobl i drwsio ac ailddefnyddio.

Cynon Taf Community Housing Group Ltd

Mae Cynon Taf Community Housing Group Ltd yn gweithio gyda Down to Zero a Coalfield Flower Farm CIC. Byddant yn cefnogi cymunedau yn Llantrisant a Phont-y-clun a'r cyffiniau. Nod y prosiect yw helpu pobl i leihau eu hallyriadau carbon. Bydd y grant £334,999 yn helpu'r bartneriaeth i arbrofi gyda ffyrdd newydd o ddefnyddio'r tir. Mae'r prosiect yn cynnwys:

  • tyfu bwyd a blodau cymunedol
  • plannu coed
  • datblygiad amaeth-goedwigaeth (tyfu coed neu gnydau gyda da byw i ddiogelu'r amgylchedd)
  • cynhyrchu ynni gwyrdd.

Maindee Unlimited

Mae Maindee Unlimited wedi partneru gyda Waste Savers a Benthyg Cymru. Maent yn bwriadu creu newid ymddygiad, ar lefel unigol a chymunedol. Maen nhw wedi derbyn grant £218,618 i weithio yn ardal Maendy yn Nwyrain Casnewydd. Nod y prosiect yw datblygu sgiliau ymarferol i fyw'n fwy cynaliadwy. Bydd yn adeiladu ar fentrau presennol o amgylch yr economi rhannu. Nod y prosiect yw cryfhau gwytnwch Newport Circular Economy Network. Yn ogystal â datblygu Llyfrgell o Bethau ym Maendy.

The Environment Centre Ltd

Derbyniodd The Environment Centre Ltd grant £349,107. Bydd y grant hwn yn helpu grwpiau cymunedol yn Abertawe i gymryd camau gweithredu ystyrlon ar yr hinsawdd. Nod y prosiect yw cynyddu gwybodaeth trwy gefnogaeth a hyfforddiant. Bydd hynny'n arwain at leihau allyriadau carbon y grwpiau cymunedol.

Bydd grwpiau yn cyflawni eu gweithredoedd hinsawdd eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cael asesiad ynni adeilad
  • dysgu sgiliau trwsio
  • cyflawni cynllun gweithredu i leihau eu hôl troed carbon
  • hyfforddiant i gynyddu eu gwybodaeth a'u hyder ynghylch gweithredu hinsawdd.

Siop Griffiths Cyf

Derbyniodd Siop Griffiths Cyf grant £205,809 i ddarparu rhaglen o weithgareddau. Eu nod yw newid agweddau ac ymddygiad pobl sy'n byw ar draws Dyffryn Nantlle. Nod y prosiect yw helpu'r gymuned i leihau eu heffaith o ran:

  • teithio
  • bwyd
  • ynni
  • dulliau prynu
  • lleihau eu hôl troed carbon.