Rural Programme

Mae'r Rhaglen Wledig (rownd dau) yn ariannu prosiectau sy'n creu newidiadau cadarnhaol ar gyfer pobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wledig.

Ardal
Cymru
Yn addas ar gyfer
Mudiadau gwirfoddol neu gymunedol, Mentrau cymdeithasol, Mudiadau statudol
Maint yr ariannu
Hyd at £500,000 (refeniw a chyfalaf)
Cyfanswm ar gael
£4 miliwn
Terfyn amser ymgeisio

12:00 hanner dydd ar 1 Hydref 2019*
*mae rownd 1 wedi cau.

Sut i fod yn llwyddiannus

Mae'r Rhaglen Wledig (rownd dau) ar gyfer prosiectau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl a chymunedau sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wledig. Bydd y rhaglen hon yn ariannu partneriaethau sy'n deall y cysylltiad rhwng achosion ac effeithiau tlodi, ac yn cynnig datrysiadau a gwasanaethau sy'n defnyddio dull cydlynol i daclo'r broblem wrth ei gwraidd.

Bydd prosiectau'n canolbwyntio ar helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd diwallu eu hanghenion sylfaenol neu gyrchu gwasanaethau, nad oes ganddynt amodau byw rhesymol neu a allai fod wedi'u hynysu oddi wrth bobl eraill.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedi datblygu eu syniad trwy archwilio ymchwil gyfredol, a byddant wedi ystyried sut fydd eu prosiect yn integreiddio â gweithgareddau a gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal. Rydym yn gwybod ei fod yn debygol y bydd datrysiadau lluosog, felly mae gennym ddiddordeb mewn cynigion a fydd yn profi dulliau newydd neu'n cyfuno amrywiaeth o syniadau i gyflawni'r effaith fwyaf.

Bydd prosiectau'n cael eu cyflwyno gan bartneriaethau sydd â dymuniad i gydweithio i ddod o hyd i'r dull gorau o helpu pobl a chreu gwahaniaeth pendant sy'n parhau y tu hwnt i gyfnod ein grant. Gall partneriaid gynnwys pobl sydd â phrofiad byw o dlodi gwledig, mudiadau a gwasanaethau lleol, cyrff statudol, arbenigwyr ac ymchwilwyr.

Bydd eich prosiect yn grymuso pobl i gymryd rôl arweiniol wrth daclo tlodi gwledig trwy fod:

  • Wedi'u harwain gan bobl – gan gynnwys yn bwrpasol y bobl a chymunedau a fydd yn elwa o'ch prosiect o ran ei ddyluniad a chyflwyniad
  • Yn seiliedig ar gryfderau – gan fanteisio i'r eithaf ar sgiliau a phrofiadau'r bobl rydych yn cydweithio â nhw, ac adeiladu arnynt
  • Yn gysylltiedig – gan ddatblygu perthnasoedd gwaith da, deall beth mae mudiadau perthnasol eraill yn ei wneud yn yr ardal leol a sut fydd eich prosiect yn cydweddu â gweithgareddau a gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli neu'n ychwanegu gwerth atynt.

Dyma ffilm fer i roi syniad ichi, ond un enghraifft yn unig yw hwn, felly os ydych yn cynllunio prosiect o fath gwahanol, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.

Manteisio i'r eithaf ar ddysgu

Yn ogystal â chefnogi partneriaethau a fydd yn cydweithio'n uniongyrchol â chymunedau lleol yng Nghymru, rydym eisiau gwella gwybodaeth a sgiliau eraill sy'n taclo tlodi gwledig.

Bydd gan bob prosiect gynllun gwerthuso, monitro a lledaenu o'r cychwyn cyntaf a gaiff ei ddefnyddio i wneud unrhyw welliannau a newidiadau angenrheidiol wrth i'r prosiect gael ei gyflwyno.

Bydd prosiectau'n rhannu eu canfyddiadau gwerthuso â'i gilydd, a gyda mudiadau eraill sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth yn yr ardal hon.

Gwirio a ydych yn gymwys

Gallwch ymgeisio i rownd dau y Rhaglen Wledig, hyd yn oed os na chyflwynoch gais yn rownd un.

Ydych chi'n ystyried ymgeisio i Rownd 2 y Rhaglen Wledig? Os ydych, gallai'r webinar hwn, a recordiwyd yn fyw ym mis Ionawr 2019 eich helpu.

Pwy all ymgeisio?

Rydym yn chwilio am brosiectau a fydd yn cefnogi cymunedau sydd â phoblogaeth o 10,000 neu lai, yn bennaf yng Ngheredigion, Conwy, Gwynedd, Môn, Powys, Sir Benfro, Sir Ddinbych, Sir Fynwy neu Sir Gâr.

I ymgeisio am grant, mae'n rhaid i chi fod yn arwain partneriaeth o fudiadau a fydd yn cyflwyno'ch prosiect. Mae'n rhaid bod gan y mudiadau hyn y sgiliau ac arbenigedd i ymateb i'r heriau y mae pobl mewn tlodi yn eu hwynebu.

Gallwch ymgeisio os ydych yn:

  • Fudiad gwirfoddol neu gymunedol
  • Elusen gofrestredig
  • Grŵp neu glwb sydd â chyfansoddiad
  • Ysgol
  • Menter gymdeithasol (cwmni cyfyngedig trwy warant neu gwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, cyhyd â bod elw o'r prosiect yn cael ei ail-fuddsoddi yn y mudiad er mwyn creu mwy o effaith)
  • Cwmni Buddiant Cymunedol (sydd â dau neu fwy o gyfarwyddwyr)
  • Corff statudol, fel cyngor tref, plwyf neu gymuned, awdurdodau lleol.

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

  • Unigolion neu unig fasnachwyr
  • Mudiadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig
  • Mudiadau y mae eu bwriad yw creu elw yn bennaf i'w ddosbarthu'n breifat
  • Ceisiadau a wneir gan un mudiad ar ran mudiad arall
  • Mudiadau heb o leiaf dau unigolyn nad ydynt yn perthyn i'w gilydd*.

(*hynny yw, ddim yn berthynas trwy waed, wedi priodi, mewn perthynas hir dymor neu bobl sy'n cydfyw yn yr un cyfeiriad)

Ar beth allwch chi wario'r arian?

Gallwn ariannu'r rhan fwyaf o'r costau sy'n gysylltiedig â chyflwyno eich prosiect, fel cyflogau staff, hyfforddiant, treuliau gwirfoddolwyr, costau rheoli, cyfarpar, costau adeiladau, monitro a gwerthuso, gwaith cyfalaf a chostau cyffredinol.

Os ydych yn ymgeisio am gostau cyfalaf, cysylltwch â ni i ofyn am gopi o'n harweiniad tir ac adeiladau.

Ni allwn ariannu:

  • Gweithgareddau sy'n disodli arian y llywodraeth
  • Gweithgareddau lle bydd elw yn cael ei ddosbarthu er budd preifat
  • Costau ôl-weithredol
  • Ad-dalu benthyciadau
  • Gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ariannu mudiadau crefyddol os ydynt yn darparu buddion ar gyfer y gymuned ehangach)
  • TAW adferadwy.

Rheolau Cymorth Gwladwriaethol

Mae cyllid cyhoeddus ar gyfer mudiadau sy’n cyflawni gweithgareddau masnachol, gan gynnwys y rhai sydd â statws elusennol, wedi’i reoli gan reolau ‘Cymorth Gwladwriaethol’ y Comisiwn Ewropeaidd.

Diffinnir cymorth gwladwriaethol gan gyfamod sefydlu'r Comisiwn Ewropeaidd fel "unrhyw gymorth a roddir gan Aelod-wladwriaeth sy'n aflunio neu'n bygwth aflunio cystadleuaeth trwy ffafrio ymgymeraethau penodol neu gynhyrchu nwyddau penodol.” Ystyrir bod y Loteri Genedlaethol yn ddarparwr adnoddau'r wladwriaeth ochr yn ochr â chyrff llywodraeth cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Wrth ddatblygu eich cais, mae’n bwysig eich bod yn ystyried ac, os bydd angen, ceisio cyngor ynghylch rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol. Dylech geisio cyngor cyfreithiol os ydych yn ansicr a yw eich prosiect yn cydymffurfio â chymorth gwladwriaethol ai beidio. Mae methu â chydymffurfio â'r rheolau'n golygu bod y cymorth yn anghyfreithlon, ac y gallai fod angen i dderbynnydd y cymorth ei ad-dalu gyda llog.

Ddim yn siŵr a ydych yn gymwys?

Os nad ydych yn siŵr p'un a allwch gael eich ariannu ai beidio, cysylltwch â ni:

Ffôn: 0300 123 0735

Cyfnewid testun: 18001 plws 0300 123 0735 (ar gyfer pobl sydd â nam ar y clyw neu'r lleferydd)

E-bost: cymruwledig@cronfagymunedolylg.org.uk

Beth i ddisgwyl

1. Darganfod a allwn eich ariannu

  • Gwiriwch eich bod yn gymwys
  • Darllenwch yr arweiniad hwn

2. Dweud wrthym beth yw eich syniad

Gyrrwch e-bost i cymru.wledig@cronfagymunedolylg.org.uk gyda disgrifiad byr o'r hyn rydych eisiau ei wneud. Nid oes rhaid bod gennych yr holl fanylion ond hoffem wybod am:

  • eich cymuned a sut mae tlodi'n dylanwadu arni
  • beth rydych eisiau ei wneud i daclo tlodi yn eich cymuned
  • sut fydd eich syniad yn cysylltu â gwaith arall yn eich ardal a phwy rydych yn gobeithio gweithio mewn partneriaeth â nhw i gyflwyno'r prosiect
  • faint o arian y tybiwch y bydd ei angen arnoch.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich e-bost, a phan fyddwn wedi'i ddarllen, yn cysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth am eich syniad. Rhowch rif cyswllt i ni fel y gallwn wneud hyn.

3. Cyflwyno cais llawn

Os ydym yn credu bod eich prosiect yn rhywbeth y gallem ei ariannu byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn. Bydd cais llawn yn cynnwys:

  • Ffurflen manylion y mudiad – mae hon yn rhoi gwybodaeth i ni am eich mudiad
  • Cynllun prosiect – mae hwn yn dweud wrthym sut y byddwch yn rheoli ac yn cyflwyno'ch prosiect
  • Cyllideb prosiect – mae hwn yn dweud wrthym faint y bydd eich prosiect yn ei gostio a faint rydych eisiau i ni ei ariannu.
  • Cyfrifon blynyddol eich mudiad (neu ragamcaniad 12 mis ar gyfer mudiadau newydd) - ddim yn berthnasol i gyrff cyhoeddus.
  • Cytundeb partneriaeth drafft – dyma ddogfen gyfreithiol sy'n amlinellu rolau a chyfrifoldebau'r mudiadau rydych yn cydweithio â nhw i gyflwyno'ch prosiect. Os ydych yn llwyddiannus, bydd angen i'ch cytundeb drafft gael ei gytuno gyda ni cyn y gallwn ryddhau unrhyw arian grant i chi.

Os ydych yn bwriadu ymgeisio am waith ar dir ac adeiladau, fel adeilad newydd, gwaith adnewyddu, newid neu allanol, bydd angen i chi gwblhau ein rhestr wirio grant cyfalaf hefyd. Gallwn anfon hon atoch trwy e-bost neu yn y post.

Mae'n bosib y byddwn yn cysylltu â chi i siarad am unrhyw gefnogaeth ychwanegol y gallai fod ei hangen arnoch wrth i chi ddatblygu eich syniadau.

Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno eich cais yw 12.00 hanner dydd ar ddydd Mawrth 1 Hydref 2019.

4. Derbyn penderfyniad

Bydd eich cynnig yn cael ei asesu gan banel gwneud penderfyniadau, wedi'i gefnogi gan adroddiad a luniwyd gan y Swyddog Ariannu perthnasol.

Bydd ein Swyddogion Ariannu'n rhoi gwybodaeth i chi ym mhob cam o'r daith. Byddwn yn rhoi ein penderfyniad i chi erbyn dydd Mawrth 31 Mawrth 2020.

Os ydych yn llwyddiannus

Byddwch yn derbyn galwad gan eich Swyddog Ariannu a llythyr cynnig trwy'r post.

Os nad ydych yn llwyddiannus

Byddwch yn derbyn galwad neu e-bost gan eich Swyddog Ariannu i'ch hysbysu am y penderfyniad ac i gynnig unrhyw adborth perthnasol.

5. Cefnogaeth barhaus

Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cwrdd â chi i siarad trwy amodau a thelerau eich grant, cytuno ar gynllun taliadau a thrafod unrhyw weithdrefnau neu gefnogaeth arall y gallai fod ei hangen arnoch.

Byddwn yn cydweithio i adnabod y lefel gefnogaeth iawn trwy gydol eich grant a gallwch gysylltu â ni unrhyw bryd.

Ar ddiwedd bob blwyddyn o'r prosiect, byddwn yn gofyn i chi ein hysbysu am eich cynnydd a sut rydych wedi gwario eich arian. Mae mwy o gyngor ar reoli eich ariannu ar gael ar ein tudalen we.

Lleihau eich ôl troed amgylcheddol

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gofalu am ein hamgylchedd ac rydym bob amser yn ceisio rheoli ein heffaith amgylcheddol. Rydym yn annog ac yn cefnogi prosiectau a chymunedau i wneud yr un peth. Dysgwch fwy am sut y gallwch wneud eich prosiect neu ddigwyddiad hyd yn oed yn fwy cynaliadwy ac arbed arian.