Caru'n Cynefin

The Crafty Gardener

Mae'r rhaglen hon ar gau i geisiadau. Ni fydd unrhyw geisiadau sydd dal yn cael eu cwblhau yn gallu cael eu cyflwyno mwyach.

Mae IKEA Limited a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dod at ei gilydd i gefnogi cymunedau ffyniannus, gwydn a chynaliadwy ledled y DU.

Mae Caru’n Cynefin yn archwilio'r syniad y gall cymunedau fod yr un mor bwysig i ni â'n cartrefi. Nod y rhaglen yw ysbrydoli a helpu pobl i gymryd mwy o ran yn eu cymuned leol fel lle cadarnhaol a chartrefol i fod ac I gwrdd â phobl eraill.

Gallwn ariannu offer neu ddeunyddiau i wella mannau a gaiff ei rhannu gan eich cymuned a chynnal gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar fyw'n gynaliadwy.

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Mudiadau a grwpiau gwirfoddol neu gymunedol lleol bach
Maint yr ariannu
£1,000 i £5,000
Cyfanswm ar gael
£1.5 miliwn
Terfyn amser ymgeisio

Mae’r rhaglen hwn bellach ar gau ar gyfer ceisiadau.

Sut i wneud cais

Mae'r rhaglen hon ar gau. Ni fydd unrhyw geisiadau sydd dal yn cael eu cwblhau yn gallu cael eu cyflwyno mwyach.

Dim ond swm penodol o arian sydd gennym i'w ddyfarnu

Rydym yn disgwyl llawer o geisiadau, a bydd llawer ohonynt ar gyfer prosiectau gwerth chweil. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd. Yn aml, mae llawer o brosiectau na allwn eu hariannu, hyd yn oed rhai da.

Dim ond 300 o ddyfarniadau y gallwn eu gwneud ar gyfer y rhaglen bartneriaeth beilot hon. Rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i dderbyn hyd at 1,500 o geisiadau yn unig (neu methu â derbyn ceisiadau o 14 Gorffennaf 2021 os daw hyn yn gynt). Bydd yr holl geisiadau a dderbynnir yn cael eu hasesu ar yr un pryd.

Rydym yn sylweddoli nad yw hwn yn ateb perffaith. Rydym wedi gweithio gyda rhwydweithiau perthnasol i ddweud wrth rai sefydliadau a grwpiau am y rhaglen hon ymlaen llaw. Mae hyn er mwyn iddynt allu gwneud rhywfaint o waith i'w cael i'r un man cychwyn â'r rhai sydd â mwy o brofiad o wneud cais am arian gennym ni.

Byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan grwpiau:

  • nad ydynt wedi derbyn arian gennym o'r blaen
  • nad oes ganddynt ddyfarniad cyfredol gyda ni
  • sy’n sefydliadau neu grwpiau llai sydd â throsiant blynyddol o lai na £100,000.

Gall sefydliadau eraill wneud cais ond ystyriwch y ffactorau hyn yn gyntaf.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio pwy all ac na all wneud cais cyn llenwi'r ffurflen gais.

Faint o amser fydd yn ei gymryd i gael penderfyniad?

Byddwn yn ceisio rhoi penderfyniad i chi ymhen tua thri mis.

Os yw'n anodd neu'n amhosibl i chi lenwi ffurflen gais

Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw anghenion cymorth cyfathrebu. Rydym yn hapus i siarad am ffyrdd eraill i chi ddweud wrthym am eich syniad.

Pa wybodaeth rydych chi ei hangen i wneud cais

Rydym yn gofyn i ddau berson gwahanol o'ch sefydliad fod yn gysylltiadau i ni ar gyfer y prosiect:

  • dylai un person fod yn rhywun y gallwn siarad ag ef os oes gennym unrhyw gwestiynau am eich prosiect
  • dylai'r person arall fod yn uwch aelod o'ch sefydliad, a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am y arian.

Mae angen i'r ddau fyw yn y DU.

Mae angen eu manylion canlynol:

  • enwau
  • manylion cyswllt
  • cyfeiriad cartref
  • dyddiadau geni.

Mae angen i'r ddau gyswllt gael cyfeiriadau e-bost gwahanol.

Bydd angen i chi roi gwybod i'r uwch gyswllt eich bod yn cynnwys eu gwybodaeth fel rhan o'r cais.

Ni all y ddau berson hyn fod:

  • yn perthyn drwy waed
  • yn briod â’i gilydd
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad.

Rydym yn gofyn am enw cyfreithiol eich sefydliad - a'i gyfeiriad. A pha fath o sefydliad ydyw

Gwnewch yn siŵr bod y rhain yn gyfoes ac yn cyd-fynd ag unrhyw ddogfennau gwybodaeth neu hunaniaeth y gofynnwn amdanynt (pan fyddwch yn cyrraedd rhan y cais). Efallai na fydd 'enw cyfreithiol' eich sefydliad yr un fath â'ch enw o ddydd i ddydd. Eich enw cyfreithiol yw'r un a ddangosir ar eich dogfen lywodraethol (fel eich cyfansoddiad, gweithred ymddiriedolaeth, memorandwm neu erthyglau cymdeithasu).

Gofynnwn am wybodaeth am gyfrifon eich sefydliad

Rydym am wybod y dyddiad y mae eich cyfrifon yn dod i ben bob blwyddyn a faint o incwm sydd gennych chi.

Os nad oes gennych gyfrifon blynyddol oherwydd eich bod yn sefydliad newydd (llai na 15 mis oed), mae hynny'n iawn. Gallwn barhau i edrych ar eich cais.

Rydym yn gofyn am ddatganiad banc o'r tri mis diwethaf

Dylai ddangos:

  • enw cyfreithiol eich sefydliad
  • y cyfeiriad lle anfonir y datganiadau
  • enw eich banc
  • cod y cyfrif a'r rhif didoli
  • y dyddiad y cyhoeddwyd y datganiad.

Dyma lun o'r math o ddatganiad banc rydyn ni'n chwilio amdano.

Dim ond i fanc neu gymdeithas adeiladu a reoleiddir yn y DU a ddiogelir gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol (FSCS) y gallwn drosglwyddo arian.

Rhaid i'ch cyfrif hefyd ei gwneud yn ofynnol i o leiaf ddau berson nad ydynt yn gysylltiedig gymeradwyo'r holl drafodion a chodi arian.

Mae'n ddrwg gennym ond bydd yn rhaid i ni wrthod eich cais os na fyddwch yn rhoi'r canlynol i ni:

  • y wybodaeth lawn a chywir rydym yn chwilio amdani, neu
  • digon o'r dystiolaeth rydym yn gofyn i chi amdani.

Rydyn ni’n gofyn i chi am wybodaeth am ba fath o brosiect yr hoffech ei wneud

A sut y bydd eich prosiect yn bodloni'r meini prawf sy’n cael eu rhestru yn ‘Y prosiectau rydym yn eu hariannu’.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais

  1. Rydych yn anfon eich cais atom- byddwn yn cysylltu â chi gyda phenderfyniad ymhen tua thri mis. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn edrych ar eich syniad ac yn gwneud ein gwiriadau diogelwch. Gallwch ddysgu mwy am y gwiriadau a wnawn. Os oes angen mwy o wybodaeth arnom am eich syniad i helpu gyda'n penderfyniad, efallai y byddwn yn rhoi galwad i chi neu'n anfon e-bost atoch.
  2. Os bydd eich cais yn llwyddiannus - byddwn yn anfon e-bost atoch gyda’r newyddion da. Gallwch gychwyn eich prosiect ar unwaith ar ôl i chi dderbyn yr e-bost yma os hoffech. Byddwn yn rhoi’r arian yn eich cyfrif banc o fewn 14 diwrnod (neu cyn hyny, os yn bosibl).
  3. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus - bydd IKEA Limited mewn cysylltiad i ofyn ychydig o gwestiynau am eich cais. Maent am gysylltu â phawb a wnaeth gais, p'un a roddwyd y grant iddynt ai peidio. Eich penderfyniad chi fydd hi i gymryd rhan ai peidio.
  4. Gallwch ddechrau gwario'r arian ar eich prosiect - dylech wario'r arian yn y ffordd y gwnaethoch chi ddweud y byddech chi’n ei wario yn eich cais (oni bai ein bod wedi cytuno ar rywbeth gwahanol yn gyntaf).
  5. Rhannwch eich stori - rhowch wybod i bobl am eich grant a'r gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud yn eich cymuned. Gall rhannu newyddion am eich prosiect gyda'ch cymuned fod yn ffordd wych o sicrhau eu bod nhw’n cymryd rhan ac yn ymgysylltu. Bydd eich e-bost dyfarnu hefyd yn cynnwys manylion ar sut i roi cyhoeddusrwydd i'ch grant a rhoi gwybod i bobl sut mae eich prosiect yn cefnogi pobl yn eich cymuned.

Rydyn ni’n gofyn i chi hefyd ddarllen a chytuno i'n telerau ac amodau

Gallwch ddarllen y telerau ac amodau.

Os nad ydych chi’n siŵr am y math o bethau rydym yn gofyn amdanynt pan fyddwch yn gwneud cais

Cysylltwch â ni.

Gallwch hefyd ddarllen ein Datganiad Diogelu Data i ddarganfod sut rydym yn defnyddio'r data personol y byddwch chi’n ei roi i ni.

Pwy all ac na all wneud cais?

Pwy all wneud cais?

Gallwch wneud cais os ydych yn un o’r canlynol:

  • sefydliad gwirfoddol neu gymunedol
  • elusen gofrestredig
  • grŵp neu glwb cyfansoddedig
  • cwmni dielw neu gwmni budd cymunedol
  • ysgol (cyn belled a bod eich prosiect yn elwa ac yn cynnwys y cymunedau o gwmpas yr ysgol)
  • corff statudol (gan gynnwys tref, plwyf a chyngor cymunedol)
  • mudiadau sydd ag arian grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ar hyn o bryd - gallant wneud cais am brosiect cysylltiedig â COVID-19. Rydym yn caniatáu i grwpiau ddal hyd at uchafswm o ddwy ddyfarniad o fewn cyfnod o 12 mis.

Os ydych yn sefydliad llai

Rydym yn awyddus i ariannu sefydliadau a grwpiau llai hefyd. Felly byddwn yn edrych ar eich incwm pan fyddwn yn gwneud penderfyniad.

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan y canlynol:

  • unigolion
  • hunan fasnachwyr
  • sefydliadau sydd â'r nod o gynhyrchu elw yn bennaf ar gyfer ei ddosbarthu’n breifat
  • sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU
  • un unigolyn neu sefydliad sy'n gwneud cais ar ran unigolyn arall
  • pobl o dan 18 mlwydd oed.

Aelodau'r bwrdd neu'r pwyllgor 

Mae'n hanfodol bod gan sefydliadau sy'n gwneud cais o leiaf ddau berson ar eu bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn gysylltiedig. 

Trwy gysylltiedig, rydym yn golygu: 

  • yn briod â'i gilydd 
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd 
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd 
  • yn byw gyda’i gilydd yn yr un cyfeiriad
  • yn perthyn drwy waed. 

Rhaid i bob cwmni sy'n gwneud cais gael o leiaf ddau gyfarwyddwr nad ydynt yn gysylltiedig yn unrhyw un o'r ffyrdd hyn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gwmnïau sydd hefyd wedi'u cofrestru fel elusennau.

Os ydych yn ysgol neu'n sefydliad sy'n gweithio mewn ysgol

Mae angen i'ch prosiect gryfhau'r gymuned y tu allan i'r ysgol hefyd. Dylai fod er budd a chynnwys mwy na dim ond:

  • athrawon
  • disgyblion
  • rhieni disgyblion.

Ni fyddwn yn ariannu prosiectau ysgolion sydd:

  • yn gwella cyfleusterau neu offer ysgol nad ydynt ar gael i'r gymuned ehangach eu defnyddio
  • yn helpu gyda hyfforddiant staff
  • yn rhan o gwricwlwm yr ysgol
  • yn cynnwys gweithgareddau y dylai'r ysgol fod yn eu darparu eisoes (fel prosiect sy'n addysgu llythrennedd yn ystod oriau ysgol)
  • yn digwydd yn ystod amseroedd addysgu (gallai cyn ac ar ôl ysgol fod yn iawn).

Ni allwn dderbyn nifer o geisiadau gan yr un grŵp neu sefydliad.

Os nad ydych yn siŵr a allwch ymgeisio

Cysylltwch â ni. Gallwch hefyd wirio pa raglenni ariannu arall gallwch ymgeisio iddynt.

Y prosiectau rydym yn eu hariannu

Y prosiectau rydym yn eu hariannu

Bydd angen i'ch prosiect fodloni o leiaf dau o'r meini prawf hyn:

  • Mae'n adeiladu ar y cydberthnasau a grëwyd yn ystod pandemig COVID-19 i gynyddu gweithgarwch cymunedol a nifer y bobl sy'n cymryd rhan.
  • Mae'n annog pobl i weithio gyda'i gilydd, gan greu cyfleoedd i gymunedau fyw mewn ffordd gynaliadwy ac iach.
  • Mae'n codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o bwysigrwydd aelwydydd, cymdogaethau a chymunedau gwydn cysylltiedig. 
  • Mae'n datblygu syniad, gweithgaredd neu ffordd newydd o ddod at ei gilydd sydd wedi dod i'r amlwg mewn ymateb i'r pandemig. 
  • Mae'n adfywio neu'n ailgynllunio mannau cymunedol a mannau cyffredin i annog gweithgareddau cymunedol a rennir.    

Gallwch wneud cais os oes gennych grant cyfredol gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Byddwn yn ystyried sut y byddai'r arian hwn yn ategu ac yn effeithio ar ddyfarniadau presennol yn ystod y broses asesu.

Byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan grwpiau:

  • nad ydynt wedi derbyn arian gennym o'r blaen
  • nad oes ganddynt ddyfarniad cyfredol gyda ni
  • sydd yn sefydliadau llai sydd â throsiant blynyddol o lai na £100,000.

Gall sefydliadau eraill wneud cais ond ystyriwch y ffactorau hyn cyn i chi roi o'ch amser i wneud cais.

Rydym yn cydnabod y bydd angen i weithgareddau ymateb i reolau a rheoliadau penodol ar gyfer y cyfnod clo. Gwyddom hefyd fod y rhain yn debygol o amrywio ledled y DU. Rydym yn deall y bydd angen i brosiectau aros yn hyblyg ynglŷn â'r hyn y gallant ei wneud. Byddwn ni mor hyblyg ag y gallwn fod hefyd.

Byddwn yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau

Rydym yn awyddus bod prosiectau'n adlewyrchu cymysgedd o gymunedau a lleoedd o bob rhan o'r DU. Byddwn yn sicrhau bod grantiau yn cael ei wneud yn ddaearyddol ledled y DU ac amrywiaeth o weithgareddau'n cael eu darparu ar draws y prosiectau.

Byddwn yn ystyried hyn wrth asesu eich cais yn erbyn eraill a dderbyniwn.

Rhaid i chi gynnwys eich cymuned yn eich prosiect

Rydyn ni’n credu bod pobl yn deall yr hyn sydd ei angen yn eu cymunedau yn well na neb arall. Mae'n bwysig i ni eich bod yn cynnwys eich cymuned yn y gwaith o gynllunio, datblygu a chyflwyno'r gweithgareddau rydych chi’n eu cynllunio.

Mae'r fideo byr hwn yn ei esbonio'n dda - http://www.youtube.com/watch?v=qFkavT5kGSk. Efallai y byddai'n ddefnyddiol pan fyddwch yn rhoi eich cais at ei gilydd.

Cyflawni eich prosiect yn Gymraeg

Pan fyddwch yn derbyn arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect yng Nghymru, bydd angen i chi ei gyflwyno yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg a sicrhau bod eich holl weithgareddau ar gael i'ch cymuned yn y dewy iaith. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog neu cysylltwch â Thîm yr Iaith Gymraeg cymorth.cymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk.

Os yw eich prosiect yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion bregus

Mae angen i chi gael polisi ar waith sy'n esbonio sut y byddant yn ddiogel. Efallai y byddwn yn gofyn am gael gweld y polisi hwn os penderfynwn roi arian i chi. Mae gan yr NSPCC lawer o gyngor defnyddiol am sefydlu a dilyn polisïau diogelu plant da.

Os nad ydych yn siŵr am y math o brosiectau rydym yn eu hariannu

Gallwch gysylltu â ni bob amser.

Beth allwch chi wario'r arian arno?

Gallwn dalu am weithgareddau neu eitemau, sy'n costio rhwng £1,000 a £5,000 a fydd yn helpu i adfywio eich cymuned.

Gallai'r rhain fod yn offer neu'n ddeunyddiau i adnewyddu mannau neu weithgareddau a rennir eich cymuned sy'n canolbwyntio ar fyw'n gynaliadwy.

Rhaid i chi wario'r arian o fewn naw mis i'ch dyfarniad.

Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth. Felly, os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â ni.

Gallwn ariannu:

  • digwyddiadau a chostau gweithgareddau (ond nid digwyddiadau dathlu)
  • offer a deunyddiau
  • costau adnewyddu
  • costau staff
  • costau hyfforddi
  • trafnidiaeth
  • cyfleustodau/costau rhedeg sy'n gysylltiedig â'ch syniad
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • costau yn gysylltiedig â chyflwyno eich prosiect yn ddwyieithog megis costau cyfieithu
  • tir bach neu brosiectau adeiladu - bydd angen i chi naill ai:
    • bod yn berchen ar y tir neu'r adeilad
    • cael prydles na ellir ei gorffen am bum mlynedd
    • cael llythyr gan y perchennog yn dweud y bydd y tir neu'r adeilad yn cael ei brydlesu i chi am o leiaf bum mlynedd, neu
    • cael llythyr swyddogol gan y perchennog neu'r landlord sy'n dweud eich bod yn cael gwneud gwaith ar yr adeilad
    • a dylech hefyd feddwl am gael caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith.

Dylech ystyried effaith amgylcheddol eich prosiect a cheisio ailddefnyddio, lleihau ac ailgylchu lle bo hynny'n bosibl.

Ni allwn ariannu:

  • gweithgareddau y tu allan i'r DU
  • alcohol
  • eitemau a fydd o fudd i unigolyn neu deulu yn unig, yn hytrach na'r gymuned ehangach
  • costau wrth gefn, benthyciadau, gwaddolion neu log
  • thaliadau tariff bwydo i mewn
  • gweithgareddau gwleidyddol
  • gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad yw'n ymwneud â chynnwys crefyddol)
  • gweithgareddau gwneud elw/codi arian
  • TAW y gallwch ei hadfer
  • gweithgareddau statudol (er enghraifft, dim ond gweithgareddau ysgol sy'n ychwanegol at y cwricwlwm y gallwn eu hariannu)
  • teithio dramor
  • gweithgareddau sy'n cynhyrchu elw er budd preifat
  • costau yr ydych wedi mynd iddynt eisoes
  • gwaith ar dir neu adeiladau lle nad ydych yn bodloni ein gofynion o ran perchnogaeth tir a chaniatawyd - darllenwch 'Y prosiectau rydym yn eu hariannu' i gael mwy o wybodaeth.

Os nad ydych yn siŵr a allwch ymgeisio

Cysylltwch â ni. Gallwch hefyd wirio pa raglenni ariannu arall gallwch ymgeisio iddynt.