Cysylltu â’ch gwasg lleol a chynrychiolwyr etholedig

Mae derbyn grant gan y Loteri Genedlaethol yn gyflawniad enfawr ac yn newyddion gwych ar gyfer eich cymuned leol. Bydd gan bapurau newydd lleol a gorsafoedd radio ddiddordeb i glywed eich newyddion. Gall sicrhau bod cynrychiolwyr etholedig lleol yn cael eu hysbysu a’u gwahodd i ddod i weld eich gwaith helpu amlygu eich proffil yn lleol.

Mae cysylltu â’r cyfryngau lleol a’ch cynrychiolwyr etholedig yn ddwy ffordd wych i’ch helpu i adrodd eich stori a chodi ymwybyddiaeth yn y gymuned.

Mae hwn hefyd yn gyfle pwysig i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud eich gwaith yn bosibl.

Adnabod pa gyfryngau i'w targedu

Cysylltwch â phapurau newydd sydd ar gael i'w prynu neu a ddosberthir am ddim yn yr ardal mae eich prosiect wedi'i leoli ynddi. Os ydych yn ansicr pa ardal y maent yn adrodd amdani, gallwch ffonio i ofyn. Ystyriwch gysylltu â'ch gorsaf radio BBC leol ynghyd ag unrhyw orsafoedd masnachol yn eich ardal. Edrychwch i weld a oes unrhyw wefannau neu flogiau lleol a allai fod â diddordeb yn eich stori.

Dod o hyd i'r cyswllt gorau

Mae'n werth ffonio desg newyddion papur newydd neu orsaf radio i adrodd eich stori iddynt a gofyn a oes unrhyw un yn benodol y dylech ei hanfon atynt.

Drafftio datganiad i'r wasg

Wrth ysgrifennu hwn, ystyriwch bwysigrwydd ac effaith eich prosiect. Sut bydd yn gwneud gwahaniaeth i'r bobl rydych yn cydweithio â nhw? Sut bydd yn gwella'u bywydau? Sut bydd yn gwella'r gymuned gyfan? Gallwch ddefnyddio ein templed datganiad i’r wasg fel canllaw.

Anfon datganiad i'r wasg

Gwnewch yn siŵr bod sylwedd eich e-bost yn ymdrin â'r stori a'r ardal, er enghraifft "Dyfarnwyd Arian y Loteri Genedlaethol i Ganolfan Gymunedol Llanbrynmair". Gludwch y datganiad i'r wasg yng nghorff yr e-bost yn hytrach na'i atodi. A chofiwch bob amser gynnwys eich manylion cyswllt!

Atodi llun

Gall atodi llun o ansawdd da wella'ch cyfle o ddenu cyhoeddusrwydd yn fawr. Gall hyd yn oed lluniau a dynnwyd ar ffonau clyfar weithio'n dda iawn. Ystyriwch yr hyn yr ydych am i'r llun ei ddweud am eich prosiect - ystyriwch y lleoliad a phwy i'w gynnwys yn y llun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys enwau pawb yn y llun ac eglurwch bwy yw pwy er mwyn helpu'r papur newydd i greu is-bennawd priodol ar gyfer y llun.

Dilyn i fyny gyda galwad ffôn

Mae newyddiadurwyr yn derbyn llawer o ddatganiadau i'r wasg bob dydd a bydd yn helpu os byddwch yn rhoi galwad gyflym iddynt i amlygu'ch newyddion chi.

Dywedwch wrthym am eich llwyddiannau

Mawr hoffem glywed amdano pan fyddwch yn denu sylw'r cyfryngau yn eich ardal leol. Cysylltwch â ni er mwyn i ni gael gwybod amdano!

Cysylltu â'ch cynrychiolydd etholedig

Efallai byddwch chi’n dymuno cysylltu â’ch Aelod Seneddol neu Aelod o’r Senedd lleol i’w diweddaru am yr arian rydych wedi’i dderbyn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Gallwch adnabod eich rhanddeiliaid gwleidyddol lleol drwy nodi cod post eich prosiect

Wrth ysgrifennu atynt, dylech gyfeirio at faint o arian rydych wedi’i dderbyn, yr effaith gadarnhaol y bydd eich prosiect yn ei chael ar y gymuned leol, a gofyn a fyddai diddordeb ganddynt i ymweld â’r prosiect neu ddigwyddiad. Os yw unrhyw ymweliadau’n cael eu trefnu, rhowch wybod i dîm Materion Cyhoeddus Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar public.affairs@tnlcommunityfund.org.uk

Lawrlwytho e-bost templed